Yn y misoedd diwethaf, ar hyd ac ar led Cymru, daeth dau fudiad protest gwahanol ond rhyng-gysylltiedig i’r amlwg, gan ddod at ei gilydd yn ein prifddinas. Y cyntaf yw’r adain Gymreig i’r mudiad rhyngwladol Extinction Rebellion a fu allan ar y stryd yn protestio ym Mawrth ac Ebrill eleni, pan ddaeth ymgyrchwyr a disgyblion ysgol i’r Senedd i fynnu bod Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ‘argyfwng hinsawdd’. Yna fis Mai, cafwyd Gorymdaith dros Annibyniaeth ‘All Under One Banner’ yng nghanol dinas Caerdydd. Dyma’r digwyddiad mwyaf amlwg a fu hyd yn hyn gan y mudiad Cymreig diweddar dros annibyniaeth.
Tu hwnt i ffiniau: Cenedlaetholdeb a’r argyfwng hinsawdd
