Y cyfryngau amgen: ceffyl pren Troea?

Waeth i ni gydnabod un gwirionedd sylfaenol ar y dechrau un: nid oes unrhyw beth cynhenid Gymreig am y cyfryngau cyfrwng Saesneg yng Nghymru ac ni cheir ychwaith y fath beth â chyhoeddfan neu fywyd cyhoeddus penodol Gymreig trwy gyfrwng y Saesneg. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon a’i goblygiadau ar ein cyfer yng Nghymru eisoes wedi cael eu trafod a’u dadansoddi’n huawdl a hynny droeon erbyn hyn, ond i grynhoi: mae’r dinesydd Cymreig cyffredin yn byw o ddydd i ddydd heddiw heb ddysgu nemor ddim am y cynllunio gwleidyddol sydd yn dylanwadu cymaint ar ei fywyd, boed hynny trwy gyfrwng y cyngor lleol, y Senedd yng Nghaerdydd neu lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn San Steffan. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol ar gyfer y gweddillion democrataidd a adwaenwn fel y wladwriaeth Gymreig.

(Full article available via O’r Pedwar Gwynt)